Yr hwn a roes enwaediad I Abraham a'i had, Yn arwydd o dderbyniad Eu ffydd, er cyfiawnhâd, Gymmerodd ei enwaedu Ei hun yn Faban gwiw O dan yr enw Iesu, Yn Geidwad dynol ryw. Aeth trwy enwaediad gwaedlyd I ddeddfle euog ddyn, Cymmerodd yn ei febyd Ein hachos arno'i Hun; Boddlonodd holl ofynion Cyfiawnder pur y ne', Nes marw dan yr hoelion, Yn aberth yn ein lle. Enwaeda, Iesu grasol, Ein drwg galonau ni, A lladd bob nwyd anianol Sydd groes i'th gyfraith Di; Dal ni yn dy gyfammod, A golch ni yn dy waed, Nes diosg holl gorff pechod, A'i fathru dan ein traed.Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) 1827-95
Tôn [7676D]: Ceylon |
He who gave circumcision To Abraham and his seed, As a sign of the acceptance Of their faith, for righteousness, Took his circumcision Himself as a worthy Baby Under the name of Jesus, As Saviour of human kind. He went through bloody circumcision In the place of guilty man, He took in his infancy Our cause upon Himself; He satisfied all the demands Of the pure righteousness of heaven, Until dying under the nails, As a sacrifice in our place. Circumcise, gracious Jesus, Our wicked hearts, And kill every natural lust Which is contrary to Thy law; Hold us in thy covenant, And wash us in thy blood, Until putting off the whole body of sin, And trampling it under our feet.tr. 2016 Richard B Gillion |
|