Yr Iesu'n ddi-lai A'm gwared o'm gwae; Achubodd fy mywyd, Maddeuodd fy mai; Fe'm golchodd yn rhad, Do'n wir, yn ei waed, Gan selio fy mhardwn Rhoes imi ryddhad. Fy enaid i sydd Yn awr, nos a dydd, Am ganmol fy Iesu A'm rhoddes yn rhydd: Ffarwel fo i'r byd, A'i bleser ynghyd; Ar drysor y nefoedd Fe redodd fy mryd. 'R wy'n gweled bob dydd Mai gwerthfawr yw ffydd; Pan elwy' i borth angau Fy angor i fydd: Mwy gwerthfawr im yw Na chyfoeth Periw; Mwy diogel i'm cynnal Ddydd dial ein Duw.Morgan Dafydd -1762 Aleluia 1749
Tonau [5565D]: gwelir: Ffarwel y fo'r byd 'Rwy'n gweled bob dydd |
Jesus unfailingly Shall deliver me from my woe; He saved my life, He forgave my fault; He washed me freely, He did truly, in his blood, Thus sealing my pardon He gave me freedom. My soul is Now, night and day, Wanting to praise my Jesus For setting me free: Farewell to the world, And all its pleasures; On the treasures of heaven He set my attention. I am seeing every day That faith is valuable; When I go to feed death My anchor shall be: More valuable to me it is Than the wealth of Peru; Mor secure to support me In day of vengeance of our God.tr. 2015 Richard B Gillion |
|