Y Tad, y Mab, yr Ysbryd Glân, Duw hunan-ymddibynol; Crëawdwr nefoedd, tir, a môr, Hwn yw fy Ior anfarwol! Mae'n holl-bresennol yn mhob man, Yn llenwi anfeidroldeb; Fel uchder nef, mae dyfnder tòn Yn noeth ger bron ei wyneb. Efe sy'n llywio dyfnder lli' Dw'r heli, a daearolion; Llu serog chwyrn, llu'r collffyrn cas, Is ardal gras, sy'n greision! Duw Hollalluog ar bob llaw, I'w filwr daw gorfoledd; Caiff Holl-wybodol, berffaith Fôd, Is, uwch y rhod anrhydedd. Mae'n Dduw trugarog at y gwan, Mae'n Awdwr annewidiol; Duw sanctaidd, ffyddlawn, cyfiawn cair, Cyflawnai'i air yn wrol. Mae ef yn darian, mae fe'n dŵr; Iachawdwr rhag pechodau; Nid oes ar ddaear neb rhyw ddyn Yn haeddu'r un o'r enwau.
efel. David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822 Tôn [MS 8787]: Rhuthyn (B M Williams 1832-1903) |
The Father, the Son, the Holy Spirit, Self-dependent God; Creator of heaven, land, and sea, He is my immortal Lord! He is all-present in every place, Filling infinity; Like the height of heaven, the depth of the wave is Bare before his face. It is he who steers the depth of the flood Of salt water, and terrestrial ones; A whirling starry host, and the host of hateful hell-fires, Below the region of grace, which are scorched! God Almighty on every hand, To his soldiers comes jubilation; The All-knowing, perfect Being will get Honour below, above the sky. He is a merciful God to the weak, He is an unchanging Author; Holy, faithful, righteous God, to be found Fulfilling his word valliantly. He is a shield, he is water; Saviour from sins; There is no man on earth Deserving one of the names. tr. 2010 Richard B Gillion |
|