Y mae cyfammod hynod hedd

(Cadernid Cyfammod Duw)
Y mae cyfammod hynod hedd,
A ddeil trwy'r byd,
    trwy angeu a'r bedd,
Heb gyfnewidiad yn ei wedd
  Nes myn'd i'r wledd yn lân;
Rhwng Tri yn Un draw'n mhell fe'i gwnaed,
Ar seiliau gwych, a'i selio â gwaed,
I godi'r truain ar eu traed, -
  O! cyfod, f'enaid, cân.

Cyfammod bendigedig yw,
Un hollol râd i ddynolryw, -
Cael mewn addewid i ni'n Dduw
  Yr Arglwydd Dduw, 'i hun,
Yr hwn a wnaeth y tir a'r môr,
Ei enw Ef yw Arglwydd Iôr;
Ei 'wyllys da a'i holl ystôr,
  Yn d'od yn eiddo' dyn.
Edward Jones 1761-1836
Caniadau Maes y Plwm 1857

[Mesur: 8886.8886]

(The Firmness of God's Covenant)
There is a notable covenant of peace,
Which shall hold through the world,
    through death and the grave,
Without a change in its condition
  Until going to the feast whole;
Between Three in One far yonder it was made,
On wonderful bases, and established with blood,
To raise the wretches on their feet, -
  Oh, arise, my soul, sing!

A blessed covenant it is,
One completely free to humankind, -
To get in a promise to us as God
  The Lord God, himself,
He who made the land and the sea,
His own name is Sovereign Lord;
His good will and all his store,
  Becoming the possession of man.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~