Y mae Dy gariad, mawr ei rin, Yn llawer gwell na'r melys win, Fe ddwg, fe god fy enaid gwan O ddyfnder ofnau mawr i'r lan. Pan byddwyf mewn tywyllwch du, Y'nghanol torf elynol hy; Fe dyn dy gariad pur fi ma's, I ganu'r gwaredigol râs. Pan fyddo ofnau o bob gradd, Yn gwasgu arnaf bron fy lladd, Rhyw nerth sydd gan dy gariad cun I ddod a'm henaid atto'i hun. Nid ofnaf ddim o'r diluw mawr, Sy'n bygwth i orchuddio'r llawr, Na'r afon gref, na'r môr â'i dòn, Ond bod dy garad dan fy mron. Mi deithia'r nos, mi deithia'r dydd, Mi deithia'r creigydd mwya' sydd; Nid ofnaf eirth a llewod ddim Ond bod Dy gariad im yn rym. Mi allaf aros wrth fy hun Heb gwmni'r byd, heb gwmni dyn, Heb unrhyw gysur tan y nef Ond huno yn Ei gariad Ef. god fy :: gyfyd f' mawr :: maith wrth fy :: wrthyf f'
Tonau [MH 8888]: |
Thy love, of great virtue, is, Much better than the sweet wine, It bears, it raises my weak soul Up from the depth of great fear. Whenever I am in black darkness, In the midst of a haughty, hostile crowd; Thy pure love will pull me out, To sing the delivering grace. Whenever there are fears of every degree, Pressing upon me, almost killing me, Some strength is in thy dear love To bring my soul to thyself. I will fear nothing from the great deluge, Which threatens to cover the ground, Nor the strong river, nor the sea and its wave, But that thy love is under my breast. I will travel by night, I will travel by day, I will travel the greatest rocks there are; I will not fear bears or lions at all But Thy love is a force to me. I can stay by myself Without the world's company, without man's company, Without any comfort under heaven But sleep in His love. :: great :: extensive :: tr. 2009,13 Richard B Gillion |
|