Y mae hapusrwydd pawb o'r byd Yn gorphwys yn dy angeu drud; Hyfrydaf waith angylion fry Yw canu am fynydd Calfari. O holl weithredoedd nef yn un, Y benaf oll oedd prynu dyn; Rhyfeddod mwyaf o bob oes Yw'm Iesu yn marw ar y groes! Wel, dyma'r trysor mwyaf drud, Gwaed Iesu'n llif'o dros y byd! Fyth na foed ond ei farwol glwy' Yn sylfaen pob caniadau mwy. Darfydded canmawl neb rhyw un, Darfydded son am haeddiant dyn; Darfydded ymffrost o bob rhyw, 'Does ymffrost ond yn ngwaed fy Nuw. Ffarwel, ffarwel, gariadau'r byd, Ffarwel, bleserau oll ynghyd, Ffarwel, yr harddaf, teca'i lun, Mae'r Iesu'n ddigon im' ei hun.
Tonau [MH 8888]: Tôn [MH+88]: Langadog (<1811)
gwelir: |
The happiness of everyone in the world is Resting in the costly death; The most delightful work of angels above Is to sing about mount Calvary. Of all the actions of heaven as one, The chief of all was redeeming man; The greatest wonder of every age Is my Jesus dying on the cross! See, here is the most costly treasure, The blood of Jesus flowing for the world! May there never be by his mortal wound As a foundation of all songs any more. Let the praise of any one at all vanish, Let the mention of the merit of man vanish, Let boasting of every kind vanish, There is no boasting but in the blood of my God. Farewell, farewell, loves of the world, Farewell, pleasures altogether, Farewell, the most beautiful, fairest of appearance, Jesus himself is sufficient for me. tr. 2015 Richard B Gillion |
|