Y mae trysorau dwyfol ras O lawer uwch eu rhyw Na dim, o'r nefoedd faith i'r byd, Erioed a greodd Duw. Tra caffwyf yfed ar fy nhaith O'r ffynnon loyw glir, Nid ofnaf ronyn, er eu grym, O ddrygau'r anial dir. Er fod picelau tanllyd iawn Yn hedeg yn eu grym; Yn erbyn cariad dwyfol pur Nis gallant drygu dim. Ac mi ymffrostia'_yn nerth y nef - Yn nerth y nef ei hun; Fe bwysa haeddiant dwyfol pur Fwy na phechodau dyn. Anfeidrol ddwyfol gariad rhad, Yn unig yw fy ngrym; Ac nid oes arall fyth a'm dal I deithio i'r bywyd ddim. Myfi yn hollol ro'f fy mhwys Ar allu 'Mrenin mawr; Yr hwn a'm nertha i fynd trwy Gystuddiau maith y llawr.William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]: gwelir: Ffarwel greaduriaid gwych'u rhyw |
There are treasures of divine grace Much higher in kind Than any, from the vast heaven to the world, That ever God created. While I get to drink on my journey From the bright, clear spring, I will not fear a grain, despite their force, Of the evils of the desert land. Although there are very fiery lances Flying in their force; Against pure, divine love They can do no evil. And I shall boast in the strength of heaven - In the strength of heaven itself; Pure divine merit shall weigh More than the sins of man. Immeasurable, divine, free love, Alone is my strength; And there is nothing else shall ever keep me Travelling to the life at all. I am wholly leaning On the power of my great King; In him who strengthens me to go through The vast afflictions of earth below.tr. 2016,21 Richard B Gillion |
|