Y nos bradychwyd Mab y dyn

(Gwledd yr Arglwydd)
Y nos bradychwyd Mab y dyn,
Arlwyodd wledd â'i law ei hun,
  Trwy fara a gwin arwyddion gaed
  Yn faeth i ffydd
      o'i gorff a'i waed.

Y bara gym'rodd yn eu gwydd,
Ac yna rhoddodd ddiolch rhwydd;
  "Fy nghorff a dorir drosoch chwi -
 Bwytewch er cof am danaf fi."

'R un modd y gwin,
    yn gymun gwaed
Gwir Oen y nef,
    ei ranu wnaed;
  "Dangoswch fy marwolaeth i,
  Cynifer gwaith yr yfoch chwi."
Cas. o dros 2000 o Hymnau (S Roberts) 1841

[Mesur: MH 8888]

(The Lord's Feast)
The night the Son of man was betrayed,
He provided a feast with his own hand,
  Through bread and wine there were signs
  Nourishing to faith
     from his body and his blood.

The bread he took in their sight,
And then he gave thanks freely;
  "My body which is to be broken for you -
  Eat ye in memory of me."

Likewise the wine,
    in the communion of the blood
Of the true Lamb of heaven,
    distribute it he did;
  Show ye forth my death,
  As many times as ye drink it."
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~