Y noswaith drom bradychwyd Crist

1,2,(3,4).
(Crist yn ordeinio gwledd i'r Eglwys)
Y noswaith drom bradychwyd Crist,
  Er maint ei boenau i gyd,
Ordeiniodd wledd i'r eglwys fawr,
  A bâr hyd ddiwedd byd.

O cofiwn air yr Iesu mawr,
  Y gair a dd'wedodd E' -
"Gwnewch hyn er cof am danaf fi
  Fu farw yn eich lle."

Ni awn fel hyn yn ngwres y nef,
  Fel un lliosog lu,
Trwy demtasiynau fwy na rhif, 
  I mewn i'r nefoedd fry.

'N ôl teimlo archoll llawer saeth
  A phrofedigaeth gref,
A dioddef gwres y dydd
    a'i bwys,
  Cawn orffwys yn y nef.
O cofiwn :: Wel cofiwn

Parch. Thomas Williams, Bethesda, Morganwg.
Llawlyfr Moliant 1880

1-2: Llyfr Tonau ac Emynau (Stephen a Jones) 1868
3 : priodolwyd i William Williams 1717-91
4 : priodolwyd i
    Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) 1795-1855

Tonau [MC 8686]:
Grafton (alaw Eglwysig)
Windsor (Christopher Tye c.1505-73)

gwelir:
  Mae pererinion draw o'm blaen
  Mae'n hyfryd meddwl ambell dro

(Christ ordaining a feast for the Church)
The heavy night Christ was betrayed,
  Despite the extent of all his pains,
He ordained a feast for the great church,
  To continue until the end of the world.

Oh let us remember the word of great Jesus,
  The word He spoke -
"Do this in remembrance of me
  Who died in your place."

We go on like this in the warmth of heaven,
  Like one multitudinous host,
Through temptations more than number,
  Into heaven above.

After feeling the wounds of many an arrow,
  And strong testing,
And suffering the heat of the day
    and its weight,
  We will get to rest in heaven.
O let us remember :: So let us remember

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~