Y peraidd dir hyfrydlon

(Gorffwysfa'r Saint)
  Y peraidd dir hyfrydlon,
  Yr ardal euraid dirion,
Ag oedd ymhell, yn sefyll draw,
  A ddaeth gerllaw yr awron;
  Er lludded ac er blino,
  Na fydded in ddiffygio;
Yr ŷm yn nesnes, awn ar frys
  I mewn i'r llys yn gryno.

  Cawn orffwys yn ddihangol
  O'n temtasiynau'n hollol,
Mewn maith dangefedd pur di-drai
  Sydd yn parhau'n dragwyddol;
  A hyfryd ymddifyrru
  Yn ein Hanwylyd Iesu;
A threulio Sabath melys gwiw
  Tragwyddol i'w foliannu.
William Williams 1717-91

Tôn [7787D]: St Andrew (H J Gauntlett 1805-76)

(The Saints' Rest)
  The sweet, delightful land,
  The tender, golden region,
Which was afar, standing yonder,
  And has come nearby now;
  Despite exhaustion and despite wearying,
  Let us not fail;
We are ever nearer, let us go hurriedly
  Within the court trembling.

  We shall get rest, safe
  From our temptations completely,
In vast, pure, unebbing peace
  Which endures eternally;
  And delightfully take delight
  In our Beloved Jesus;
And spend an eternal, sweet, worthy
  Sabbath in praising him.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~