Y rhai sy'n Nghrist Iesu sy'n ffynu'n ddi ffael, Trwy hyn yn Mharadwys mae gorphwys i'w gael; Trwy hyn yn dra hynod cawn ddyfod at Dduw, A theyrnas gogoniant yn feddiant i fyw. Y neb sydd yn Iesu, caiff lettŷ hoff lawn, A'r nef yn agored, a'i nodded mewn iawn: Caiff fyw gyd â'r gyfraith yn berffaith heb ŵg, I'w fynwes, Cyfiawnder yn dyner a'i dwg.Edward Jones 1761-1836 [Mesur: 11.11.11.11] |
Those who are in Christ Jesus are prospering unfailingly, Through this in paradise there is rest to be had; Through this somewhat remarkably we may get to come to God, And a kingdom of glory as a possession to live. Anyone who is in Jesus, gets a lovely, full lodging, And heaven open, and its protection in reality: Gets to live with the law perfectly without a frown, To his breast, Righteousness tenderly shall led him.tr. 2016 Richard B Gillion |
|