Y Sabbath, gŵyl nefolaidd yw; Ar hwn cyfododd Iesu'n fyw: Clodforwn ninnau Frenin hedd, Mae wedi perarogli'r bedd. O f'enaid, nac anghofia'r dydd, Y daeth y Meichiau mawr yn rhydd, Agorwyd i ni byrth y nef, Trwy rin ei fuddugoliaeth ef. Mor hyfryd cael un dydd o'r saith I'w dreulio'n hollol gyda'th waith; Gorffwysfa dawel f'enaid trist, A gwledd yw cofio angau Crist. Gwaith rhyfedd oedd creu nef a llawr A threfnu'r greadigaeth fawr; Ond gwaith rhyfeddaf Duw ei hun Oedd gorffen iachawdwriaeth dyn. Y mae gorffwysfa'n ôl i'r saint, Mewn gwlad o hedd, O ryfedd fraint! Lle cânt fwynhau, heb gur na phoen, Dragwyddol Sabbath gyda'r Oen. Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845
Tonau [MH 8888]: gwelir: O f'enaid nac anghofia'r dydd |
The Sabbath, it is a heavenly holiday; On this Jesus rose alive: Let us praise the King of peace, He has fragranced the grave. O my soul, do not forget the day, On which the great Surety came free, Opened to us the portals of heaven, Through the virtue of his victory. How lovely to get one day of the seven To spend it completely in thy work; A quiet resting-place of my sad soul, And a feast it is to remember the death of Christ. A wonderful work was creating heaven and earth And arranging the great creation; But a more wonderful work of God himself Was to complete the salvation of man. There is a resting-place reserved for the saints, In a land of peace, O wonderful privilege! Where they may enjoy, without stroke or pain, An eternal Sabbath with the Lamb. tr. 2009,16 Richard B Gillion |
|