Y sarff a'i holl gyfrwysdra sy Am hudo f'enaid ar bob tu; Ymdrechaf ymdrech deg y ffydd: Tŵr cadarn imi, Iesu, bydd. Rho wir oleuni oddifry, Chwâl ymaith bob tywyllwch dȗ O'm mewn cyfoded seren ddydd: Tŵr cadarn imi, Iesu, bydd. O cymer fi'n dy gynhes gôl; Tyn fi, a rhedaf ar dy ol, O ras i ras, o ffydd i ffydd: Tŵr cadarn imi, Iesu, bydd. A phan y bo gelynion llym Yn rhuthro arnaf yn eu grym, A'm henaid dan ei glwyfau'n brudd, Tŵr cadarn imi, Iesu, bydd. Bydd imi'n gymhorth yn mhob lle, Tra byddwy'n teithio dan y ne': Nes ar bob gelyn gario'r dydd, Tŵr cadarn imi, Iesu, bydd.John Thomas 1730-1803 Diferion y Cyssegr 1809
Tôn [MH 8888]: |
The serpent and all its craftiness is About luring my soul on every side; I will fight the good fight of the faith: A strong tower to me, Jesus, be. Give a true light from above Scatter away every black darkness; From within me may the star of day arise: A strong tower to me, Jesus, be. O take me in thy warm embrace; Draw me, and I will run after thee, From grace to grace, from faith to faith: A strong tower to me, Jesus, be. And whenever fierce enemies are Rushing upon me in their force, And my soul is under its sore wounds, A strong tower to me, Jesus, be. Be to me a support in every place, While ever I be travelling under heaven: Until against every enemy I carry the day, A strong tower to me, Jesus, be.tr. 2009 Richard B Gillion |
|