Y waredigol dorf o saint

(Y Gān Newydd)
Y waredigol dorf o Saint
  O gylch yr orsedd lān,
A seiniant oll, heb flino byth,
  Ar flas y newydd gān;
Gan ddywedyd Teilwng ydyw'r Oen
  A laddwyd ar y pren,
I gael trag'wyddol foliant gan
  Holl awdurdodau'r nen.

Can's Ti a'n prynaist
    trwy dy waed,
  O bob rhyw lwyth ac iaith,
Ac a'n cynneliaist ni ar hyd
  Ein dyrys anial daith:
A gwnaethost ni'n freninoedd gwych
  Ac yn Offeiriaid nef,
I Dduw a'r Tad,
    a byth y cawn
  Deyrnasu gydag Ef.

Yr ogoneddus dyrfa fawr
  O engyl uchel fraint,
A unant oll, o galon bur
  I eilio mawl y saint,
Gan ddywedyd, Teilwng yw yr Oen,
  Pryniawdwr dynol ryw,
O bob addoliad, parch a bri,
  Ein Harglwydd ninnau yw.

Cydunwn ninnau ar y llawr
  A'r saint a'r engyl fry -
I roddi ein coronau i lawr
  Wrth draed ein Hargwydd cu,
Nes caffom fyned yno i'w plith,
  I'w weled a'i fwynhau,
Lle nad oes ond dedwyddwch pur
  Trag'wyddol yn parhau.
William Rees (Gwilym Hiraethog) 1802-83

Tôn [MCD 8686D]: Haydn (Franz Josef Haydn 1732-1809)

gwelir:
    Fe welir Seion fel y wawr
    Tra yn y dyrys anial dir

(The New Song)
The delivered throng of Saints
  Around the holy throne,
All sound, never wearying,
  On the taste of the new song;
While saying Worthy is the Lamb
  Who was slain on the tree,
To get eternal praise from
  All the authorities of the sky.

Since Thou hast bought us
    through thy blood,
  From every kind of tribe and language,
And hast supported us along
  Our troublesome desert journey:
And has made us brilliant kings
  And priests of heaven,
To God and the Father,
    and forever we shall get
  To reign with Him.

The great, glorious crowd
  Of angels of high privilege,
Shall all unite, from a pure heart
  To repeat the praise of the saints,
While saying, Worthy is the Lamb,
  The Redeemer of human kind,
Of every adoration, reverence and renown,
  Our Lord too he is.

Let us too unite on earth
  With the saints and the angels above -
To put our crowns down
  At the feet of our dear Lord,
Until we get to go there amongst them,
  To see him and enjoy him,
Where there is nothing but pure happiness
  Eternally enduring.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~