Ym mhob cyfyngder du, Iôr, gwrando fry fy llef; A'th enw mawr — Duw Jacob yw, A'm cadwo'n fyw i'r nef. O'th lŷs cyssegrlan llon, O anfon gymmorth im'; I nerthu'm henaid dan ei groes, O Sïon moes im' rym. Mewn côf, fel aberth pêr, Y byddo, Nêr, fy mawl; A'm gweddi doed, fel offrwm glân, O'th fla'n i dir y gwawl. Dymuniad f'enaid yw Cael iechyd Duw i'm rhan, O estyn imi hyn o'r nen, A dal fy mhen i'r lan. Gorfoledd f'enaid drud Fo yn dy iechyd byth; A'm gweddi, - "Pob dymuniad da Cyflawna, Iôr dilŷth."Casgliad o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1831 [Mesur: MB 6686] gwelir: Rhan II - Tra mae teyrnasoedd dig y byd |
In every black strait, Lord, listen above to my cry; And thy great name - the God of Jacob it is, Will keep me alive for heaven. From the court of thy cheerful sanctuary, O send help to me; To strengthen my soul under its cross, From Zion give me strength. In memory, like a sweet sacrifice, Be thou, Master, my praise; And may my prayer come, like a holy offering, Before thee in the land of light. The wish of my heart is To get the health of God for my portion, O extend to me this from the sky, And hold my head up. The joy of my precious soul Be in thy health forever; And my prayer, "Every good wish Fulfill thou, unfailing Lord."tr. 2016 Richard B Gillion |
|