Ymdeithio'r ŷm wrth arch ein Tad,
I'r Ganaan nefol fry;
A ddeui dithau i'r un wlad?
O! tyred gyda ni.
Gwlad ydyw hon sy'n llifo'n hael
O laeth a mêl yn lli';
'Does ynddi neb yn glaf na gwael,
O! tyred gyda ni.
Cei ar dy daith ymgeledd glau,
O ffrydiau Calfari,
A'th geidw'n llon rhag llwfrhau,
O! tyred gyda ni.
- - - - -
1,2,(3),4.
Ymdeithio'r ŷm wrth arch ein Tad,
I'r Ganaan nefol fry;
A ddeui dithau i'r un wlad?
O! tyred gyda ni.
O! tyred gyda ni!
Mae Duw am d'achub di;
Mae'r ffordd yn rhydd, yn ffyddiog rhêd,
O! tyred gyda ni!
O! meddwl beth yw bod yn ol,
A colli d'enaid cu!
Ystyria bellach - na fydd ffol -
O! tyred gyda ni!
Mae'r oes yn fer, a'r siwrne'n faith,
Cyn hir daw angau du;
Mae'n bryd it' ddechreu ar y daith,
O! tyred gyda ni.
Mae'r Iesu'n derbyn pawb a ddêl -
Am hyn nac ofna di;
Mor felus fyddai'th lef yn dweyd,
"Mi ddeuaf gyda chwi!"
Roger Edwards 1811-86
Tôn [MC 8686]: Wiltshire (G T Smart 1776-1867)
Tonau [MCD 8686D]:
Castle Rising (F A J Harvey 1846-1910)
Ellacombe (Württemburg Gesangbuch 1784)
Tangnefedd (<1876)
Tyred Gyda Ni (John Lloyd, L.T.S.C., Towyn.)
|
We are travelling beside our Father's ark,
To the heavenly Canaan above;
Wilt thou come to the same land?
Oh, come with us!
This is a land which flows generously
With milk and honey as a flood;
In it there is no-one diseased or ill,
Oh, come with us.
Thou wilt get swift on thy journey,
From the streams of Calvary,
And kept cheerful against being discouraged,
Oh, come with us!
- - - - -
We are travelling beside our Father's ark,
To the heavenly Canaan above;
Wilt thou come to the same land?
Oh, come with us!
Oh, come with us!
God wants to save thee;
The way is open, run faithfully,
Oh, come with us!
Oh, think what is behind,
And lose thy dear soul!
Consider henceforth - do not be foolish -
Oh, come with us!
The age is short, and the journey long,
Before long black death will come;
It is time for thee to begin the journey,
Oh, come with us.
Jesus is against everyone who comes -
About this do not fear;
How sweet will be thy cry saying,
"I will come with you!"
tr. 2010 Richard B Gillion
|
|