Ymdeithydd wy'n y byd, Fel rhai o'm tadau gynt, Sy'n morio lawer pryd Yn erbyn llanw a gwynt: Mae 'ngolwg wiw tua'r hyfryd wlad Lle mae fy Nhad a'm ffryndiau'n byw. Mae'r tònau lawer gwaith A'r stormydd mawr eu stŵr, Yn curo f'enaid llaith Nes byddo dàn y dŵr: Ond Iesu ddaw, ac yn y mân Fe'm c'od i'r làn â'i gadarn law. Pan byddo awyr glir, 'R wy'n gwel'd trwy ddrych di-frêg Rai manau o Salem dir, A'm hetifeddiaeth deg: A'r olwg hon, trwy gwrs fy nhaith, Ddôd f'enaid llaith i fyn'd yn llon. Er bod y ffordd yn faith, A rhwystrau eto 'mlaen, Câf orphen ar fy nhaith, A glànio i Salem lân: Marwolaeth ddaw, câf fyn'd heb ble, Yn iach i dre' yr ochr draw. Ac yno gwỳn fy myd, Tu draw i'r byd a'r bedd; Câf yno fyw o hyd Mewn hawddfyd ac mewn hedd: Yn canu'n bêr i'r Iesu mwyn, Am iddo'm dwyn i Salem dir.Dafydd Jones 1711-77 Aleluia 1749
priodolwyd hefyd i | attributed also to
Tonau [666688]: |
A traveller am I in the world, Like some of my fathers formerly, Who is sailing many a time Against tide and wind: My worthy gaze is towards the delightful country Where my Father and my friends are living. The waves many times And the storms of great disturbance, Strike my timid soul Until I would be under water; But Jesus comes, and soon He will raise my head up with his firm hand. Whenever the air be clear, I can see through a faultless looking-glass Some places of Salem land And my fair inheritance: With this view, through the course of my journey, My timid soul shall come to go cheerfully. Although the way be long, With obstacles still ahead, I may get to finish my journey, And land at holy Salem: Death may come, I may get to go without doubt, Whole to town on the other side. And there how blessed I shall be, Beyond the world and the grave; I will get the live there always In pleasure and in peace: Singing sweetly to gentle Jesus, For his bringing me to Salem land.tr. 2015 Richard B Gillion |
|