Yn awr yn nechrau f'oes

(Yr Ieuanc yn ceisio Cyfarwyddyd Dwyfol)
Yn awr yn nechrau f'oes,
  Dysg im' Dy ddeddfau mad;
Duw, Dy sancteiddiol ras im' moes
  O'th fawr drugaredd rad.

Dad blentyn eiddil gwan
  Dan D'aden, dirion Dad;
Nerth rho i'th ddewis Di yn rhan,
  I ffoi rhag maglau brad.

Boed geiriau mwyn Dy ras
  A'u golau'n glir o'm blaen:
Y rhain i mi o hyn i maes
  Fo'm trysor i a'm can.

Dy air sydd ar fy ngho
  Bob dydd, o fore i hwyr;
Ac yn fy nghalon beunydd bo,
  Nes purer hon yn llwyr.
David Davis 1745-1827

Tôn [MB 6686]: Bod Alwyn (David Jenkins 1849-1915)

(The Young seeking Divine Instruction)
Now at the start of my life,
  Teach me thy good laws;
God, thy sanctifying grace to me impart
  From thy great free mercy.

Father of weak, feeble children
  Under Thy wing, tender Father;
Strength give to choose Thee as a lot,
  To flee from treacherous snares.

May the gentle words of Thy grace be
  With their light clear before me:
Those to me still henceforth
  Be my treasure and my song.

Thy word is on my mind
  Every day, from morning until evening;
And may it be in my heart daily,
  Until that be completely purified.
tr. 2009 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~