Yn Dy gyfammod, mae'n fy ngho' Fod myrdd o addewidion, Rhai yn cyhoeddi llwyr iachâd, Trwy rîn Dy waed, i'r cleifion. 'R wy'n gwaeddi wrth Dy borth yn ewn Am dd'od i mewn i wledda; Nid boddlawn wyf i fod tu faes I gaerau'r ddinas noddfa. O! hollta'r môr, gwna'r ffordd yn rhydd I weled dydd y rhyddid, A chael teyrnasu cyn b'o hir Yn ngwledydd yr addewid. Yn disgwyl 'r wyf, a hyn bob cam, Fel gwyliwr am y boreu, I brofi cryfder braich Dy râs I'm tynu 'maes o'm beiau.William Williams 1717-91
Tonau [MS 8787]: gwelir: B'le trof fy wyneb Arglwydd cu |
In Thy covenant, I remember that There are a myriad of promises, Some announcing complete healing, Through the virtue of Thy blood, for the wounded. I am shouting at Thy gate boldly To come in to feast; I am not satisfied with being outside Of the fields of city of refuge. O divide the sea, make a way free To see the day of freedom, And getting to reign before long In the lands of promise. Waiting I am, and this every step, Like a watchman for the morning, To experience the strength of thy arm of Thy grace To pull me out of my faults.2016 Richard B Gillion |
|