Yn dy waith y mae fy mywyd, Yn dy waith y mae fy hedd, Yn dy waith yr wyf am aros Tra bwy'r ochor hyn i'r bedd; Yn dy waith ar ôl mynd adref Drwy gystuddiau rif y gwlith: Moli'r Oen fu ar Galfaria – Dyma waith na dderfydd byth. Tynwn ddyfroedd wrth ein heisiau O ffynnonau Brenin nef; Maent yn llawnion ac yn helaeth O'i rad iachawdwriaeth Ef; Dyma'r fan y mae cysuron Pererinion yn y byd; Dyma felus wir orfoledd Pur a hedd yn para o hyd. Melys ydyw enw'r Iesu, Enw gwerthfawroca 'rioed - Enw gorfydd i bob enw Blygu'n isel wrth ei droed; Dyma'r enw sy'n pereiddio Fel yr ennaint gwerthfawr, drud; Taenu a wnêl Ei beraroglau Hyd nes llenwi conglau'r byd. melys :: melus Taenu a wnêl Ei :: Taenu wnelo'i
1: Evan Griffiths 1795-1873
Tonau [8787D]:
gwelir: |
In thy work is my life, In thy work is my peace, In thy work I will stay While I live on this side of the grave; In thy work after going home Through afflictions numerous as dewdrops: Praising the Lamb who died on Calvary - Here is work that will never end. Let us draw waters at our need From the wells of the King of heaven; They are full and abundant From his free salvation; Here is the place where are the comforts Of the pilgrims in the world; Here are pure, true, sweet Rejoicing and peace enduring always. Sweet is the name of Jesus, The most precious name ever - The name that forced every name To bow low at his foot; This is the name that sweetens Like the precious, costly ointment; Spread do his sweet aromas Until filling the corners of the world. :: :: tr. 2008,22 Richard B Gillion |
|