Yn dy ymyl Iesu mawr

(Yn ymyl Iesu)
Yn dy ymyl, Iesu mawr,
Nid rhaid ofni
    drygau'r llawr:
  Cilia temtasiynau draw
  Os Tydi a fydd gerllaw.

Yn dy ymyl, Arglwydd Iôr,
Gallaf gerdded ar y môr;
  Cynnal fi rhag suddo i lawr
  O dan bwys un storom fawr.

Yn dy ymyl, Iesu glân,
Rhodiaf rhwng y fflamau tân;
  Deuaf allan yn fwy pur
  O ffwrneisiau poen a chur.

Yn dy ymyl, Iesu gwyn,
Wrth y Groes, ar ben y bryn,
  Teimlaf rinwedd mawr dy waed
  Yn rhoi 'mhechod dan fy nhraed.

Yn dy ymyl, ddwyfol Un,
'R wyf yn fwy na mi fy hun;
  Nid oes nefoedd well imi
  Na bod yn dy ymyl Di.
W Evans Jones (Penllyn) 1854–1938

Tonau [7777]:
Bremen (J H Knecht 1752-1817)
St Dunstan (Richard Redhead 1820-1901)
Harts (B Milgrove 1731-1810)

(By the side of Jesus)
By thy side, great Jesus,
There is no need to fear
    the evils of earth:
  Temptations retreat yonder
  If Thou shalt be at hand.

By thy side, Sovereign Lord,
I can walk on the sea;
  Uphold me against sinking down
  Under the weight of one great storm.

By thy side, holy Jesus,
I will wander between the flames of fire;
  I will come out more pure
  From the furnaces of pain and ache.

By thy side, bright Jesus,
By thy Cross, on top of the hill,
  I feel the great merit of thy blood
  Putting my sins under my feet.

By thy side, divine One,
I am greater than me myself;
  There is no heaven preferable to me
  To being by Thy side.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~