Yn Erbyn 'stormydd mawr a thonnau

(Crist Noddfa mewn Cyfyngder)
Yn Erbyn 'stormydd mawr a thonnau
  Mae fy siwrneu tu a thref;
Trwy fyrddiynau o gystuddiau,
  Dygir f'enaid gwan i'r nef;
Tros fynyddau mawrion, creigiau,
  F'enaid beunydd edrych draw,
I dir y bywyd hafaidd hyfryd,
  Iesu'm harwain yn ei law.

Yn yr Arglwydd 'rwy'n ymddiried,
  Pwy all wneuthur niwaid im'?
Tan dy adain mi gysgoda,
  Ne's myn'd heibio'r aflwydd hyn:
F'enaid ddaeth i'r ddinas noddfa,
  Yno bellach byddaf byw;
Ni chais f'enaid archolldig
  Neb yn Feddyg ond fy Nuw.

Trag'wyddol glod i'r Oen a laddwyd,
  Fy ngharu wnaeth er maint fy mai;
O safn uffern isod obry,
  Gwaredodd f'enaid o bob gwae.
Brawd ym mhob cyfyngder ydyw,
  Ni feddaf Gyfaill fel efe,
Ddioddefai'i hoelio tros fy meiau,
  Chwerw angeu yn fy lle.

'Rwy'n teimlo f'enaid 'nawr yn caru
  Yr Oen ogwyddodd droswy'i ben;
Dywedodd Iesu mawr Gorffennwyd,
  Wrth dalu 'nyled ar y pren;
'Rwy'n caru hardd lyth'rennau enw
  Yr Hwn fu farw yn fy lle;
'Does gyfaill yn y byd 'rwy' yntho,
  A bery'n ffyddlon fel efe.
Morgan Rhys 1716-79
Golwg o Ben Nebo 1764

gwelir:
  'Rwy'n teimlo f'enaid 'nawr yn caru
  Wyneb siriol fy anwylyd

(Christ a Refuge in Straits)
Against great storms and waves
  My journey is towards home;
Through myriads of afflictions,
  My weak soul is to be led to heaven;
Across great mountains, rocks,
  My soul daily looks yonder,
To the land of delightful summer life,
  Jesus leads me in his hand.

In the Lord I am trusting,
  Who can do any harm to me?
Under thy wing I will shelter,
  Until this misfortune goes past:
My soul came to the city of refuge,
  There henceforth I shall live;
My lost soul shall not seek
  Any Physician but my God.

Eternal praise to the Lamb who was slain
  Love me he did despite my fault;
From the jaws of hell down below,
  He delivered my soul from every woe.
A brother in every strait he is,
  I have no Friend but he,
He would suffer the nails for my faults,
  Bitter death in my place.

I am feeling my soul now loving
  The Lamb who bowed for me his head;
Great Jesus said, "It is finished,"
  On paying my debt on the tree;
I am loving the beautiful letters of the name
  Of Him who died in my place;
There is no friend in the world I am in,
  Who will continue faithful like he.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~