Yn erbyn rhwystrau lawer iawn

("Mi a ymdrechais ymdrech dêg, mi a orphenais fy ngyrfa,
mi a gedwais y ffydd." - 2 Tim. iv. 7.)
Yn erbyn rhwystrau lawer iawn,
  A byd yn llawn o gabledd,
Fy Nuw a gadwaf yn fy mryd,
  A'i gyfraith hyd y diwedd.

Ymdrechaf ymdrech hardd, gan ddwyn
  Y groes yn fwyn heb flino, -
A charaf Grist yn fwy nâ neb,
  Trwy 'mywyd heb ddiffygio.

Y ffydd a làn draddododd Ef
  A ddaeth o'r nef i'n dysgu,
A gadwaf gyda'i ffyddlon blant,
  Er ymgais cant i'm dallu.

Yn well nâ chyfoeth daear faith
  Dewisaf waith yr Arglwydd,
Ac yna'r yrfa'n deg o'm tu
  Fydd yn terfynu'n ddedwydd.
Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846
Gwinllan y Bardd 1831

[Mesur: MS 8787]

("I have struggled the fair struggle, I have finished my course,
I have kept the faith." - 2 Tim 4:7.)
Against very many obstacles,
  And a world full of slander,
My God I shall keep in my mind,
  And his law until the end.

I will struggle the beautiful struggle, bearing
  The cross dearly without wearying, -
And I will love Christ more than any,
  Throughout my life without failing.

The faith He purely passed on
  Who came from heaven to teach us,
And I will keep with his faithful children,
  Despite the attempt of a hundred to blind me.

Better than the wealth of vast earth
  I will choose the work of the Lord,
And then the fair course on my side
  Shall end happily.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~