Yn foreu Arglwydd attat Ti

(Salm V - Rhan II)
Yn foreu, Arglwydd, attat Ti
  Dyrchafa fi fy llef;
Fy ngweddi daer hyd attat ddaw
  Yn union draw i'r nef.

Lle'r aeth yr Iesu hael ei hun,
  I erfyn dros ei saint;
Ger bron y Tad mae Ef yn dwyn
  Ein cwyn, er mawr ei faint.

Gan hyny, deuaf i dy dŷ
  Yn hy' i brofi'th hedd:
Addolaf yn dy sanctaidd lŷs
  Yn barchus yn dy wedd.

O tywys fi â'th Ysbryd pur
  Yn nghywir lwybrau ffydd;
Gwna ffordd dyledswydd ger fy mron,
  I'm rodio hon yn rhydd.
Cas. o Salmau a Hymnau (R Phillips) 1843

[Mesur: MC 8686]

gwelir:
  Rhan I - Clyw 'ngweddi Arglwydd yn ddiball (Duw ...)

(Psalm 5 - Part 2)
In the morning, Lord, to thee
  I lift my cry;
My earnest prayer shall come to thee
  Directly yonder to heaven.

Where the generous Jesus himself went,
  To plead for the saints;
Before the Father he is bearing
  Our complaint, although great its extent.

Therefore, I shall come to thy house
  Boldly to experience thy peace:
I shall worship in thy sacred court
  Reverently in thy presence.

O lead me with thy pure Spirit
  In the true paths of faith;
Make the way of duty before me,
  For me to walk this freely.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~