Yn hwylio'r y'm dros for y byd

(Yn Rhwym i Dref)
Yn hwylio'r y'm dros for y byd,
  Yn rhwym i dref, rhwym i dref;
Yn nghanol 'stormydd gwyll o hyd,
  Yn rhwym i dref, rhwym i dref.
Cynhyrfed y gwyntoedd y ddigllawn don,
Nis all y tymestloedd gynhyrfa'n bron,
Ni gawn oll y gydgan hon -
  Yn rhwym i dref, rhwym i dref.

Ni welwn draw oleudy ffydd,
  Awn oll i dref, oll i dref;
Mae'n troi tywyllwch nos yn ddydd,
  Awn oll i dref, oll i dref;
Mae'r gwyntoedd a'r tonau,
    yn llaw ein Tad, -
Efe sy'n ein harwain i'r hyfryd wlad,
Mae'n rhoddi Canaan i ni'n rhad,
  Awn oll i dref, oll i dref.
James Spinther James (Spinther) 1837-1914
Côr y Plant 1875

Tôn: Yn Rhwym i Dref (John W Dadmun 1819-90)

(Bound for Home)
Sailing are we on the sea of the world,
  Bound for home, bound for home;
In the midst of storms of gloom always,
  Bound for home, bound for home.
Let the winds agitate the restless wave,
The tempests cannot agitate our breast,
We may all have this chorus -
  Bound for home, bound for home.

We see yonder the lighthouse of faith,
  Let us all go home, all go home;
It is turning the darkness of night to day,
  Let us all go home, all go home;
The winds and the waves are
    in our Father's hand, -
He it is leads us to the delightful land,
He is giving Canaan to us freely,
  Let us all go home, all go home.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~