Yn(g) nghroes yr Iesu ymfrostio wnaf
Yng Nghrist a'i groes ymffrostio wnaf

(Croes Crist)
Yn nghroes yr Iesu ymfrostio wnaf,
  Drwy hon mi gaf orfoledd;
Rhydd gysur pur
    wrth deithio'r glyn,
  A choron yn y diwedd.

Mae dirmyg Crist
    a'i groes i mi
  Yn fwy o fri ac urddas
Na'r holl drysorau
    sy'n y byd,
  A chyfoeth drud pob teyrnas.

Yn ymyl croes fy Arglwydd mawr
  Caf daflu 'lawr fy meiau;
A dyrchu cān i'w enu cu,
  Mewn llu o gyfyngderau.

Ac am ei aberth gwerthfawr Ef
  Dadseinia nef y nefoedd,
O galon bur ar ddwyfol dant,
  Ogoniant yn oes oesoedd.
Yn(g) nghroes yr Iesu :: Yng Nghrist a'i groes

D Silvan Evans (Daniel Las) 1818-1903

Tonau [MS 8787]:
    Dominus Regit Me (J B Dykes 1823-76)
    Dyfroedd Siloah (J Williams [Ioan Rhagfyr] 1740-1821)
    Dymuniad (R H Williams [Corfanydd] 1805-76)
    Llangranog (John Parry 1787-1866)

(The Cross of Christ)
In the cross of Jesus boast I shall,
  Through this I get to be jubilant;
It gives pure comfort
    while travelling the vale,
  And a crown at the end.

The scorn of Christ
    and his cross to me is
  Of greater esteem and dignity
Than all the treasures
    that are in the world,
  And the costly wealth of every kingdom.

By the side of the cross of my great Lord
  I get to fling down my faults;
And raise a song to his dear name,
  In a host of straits.

And about His precious sacrifice
  The heaven of heavens resounds,
From a pure heart on a divine string,
  Glory forever and ever.
In the cross of Jesus :: In Christ and his cross

tr. 2016 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~