Yn nhawel wlad Jiwdea/Jwdea dlos

Yn nhawel wlad Jwdea dlos
  Yr oedd bygeiliaid glân
Yn aros yn y maes liw nos
  I wylio'u defaid mân:
Proffwydol gerddi Seion gu
  Gydganent ar y llawr
I ysgafnhau y gyfnos ddu,
  Gan ddisgwyl toriad gwawr.

Ar amnaid o'r uchelder fry
  Dynesai angel gwyn,
A safai 'nghanol golau gylch
  O flaen eu llygaid syn:
Dywedai, "Dwyn newyddion da
  Yr wyf, i dynol-ryw;
Fe anwyd i chwi Geidwad rhad,
  Sef Crist yr Arglwydd Dduw."

Ac ebrwydd unai nefol lu
  Mewn hyfryd gytgan bêr
Nes seiniai moliant ar bob tu
  O'r ddaear hyd y sêr:
"Gogoniant yn y nefoedd fry
  I Dduw'r goruchaf Un,
Tangnefedd ar y ddaear ddu,
  Ewyllys da i ddyn."

Rhoed newydd dant yn nhelyn nef
  Pan anwyd Iesu Grist,
A thelyn aur o lawen dôn
  Yn llaw pechadur trist:
Telynau'r nef sy'n canu nawr,
  "Ewyllys da i ddyn,"
A chaned holl delynau'r llawr
  Ogoniant Duw'n gytûn.
Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) 1827-95

Tonau [MCD 8686D]:
Noel (hen garol Seisnig)
  Jwdea (hen garol Gymreig)
Yr Hen 137 (Salmydd Geneva 1556)

In the pretty, quiet land of Judea
  The holy shepherds were
Staying in the field at night
  To watch their small sheep:
The prophetic songs of dear Zion
  They sang on the ground
To lighten the black evening,
  While waiting for the break of dawn.

On a signal from the height above
  A white angel descended,
And stood in the middle of a circle of light
  Before their surprised eyes:
Saying, "Bringing good news
  I am, to human-kind;
Born to you is a gracious Saviour,
  Namely Christ the Lord God."

And suddenly a heavenly host joined
  In a delightful, sweet chorus
Until praise sounded on every side
  From the earth upto the stars:
"Glory in the heavens above
  To God the supreme One,
Peace on the black earth,
  Good will to man."

He put a new string on heaven's harp
  When Jesus Christ was born,
And a golden harp of joyful tune
  In the hand of a sad sinner:
The harps of heaven are playing now,
  "Good will to man,"
And let all the harps of earth play
  God's glory in agreement.
tr. 2014 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~