Yn rhad y mae'n dyfod bob bendith a dawn, Fy mwrdd yn gyfoethog, a'm cwpan yn llawn, A gwisg i'm cynnhesu, fy annedd, a'm tān, Fy einioes, a'm hiechyd, o'r Arglwydd yn lān. Yr awyr sy'n dyfod o artref fy Ner, A'r dyfroedd i yfed yn mhell uwch y ser, Y tān o'r wybrenau, y moroedd, a'r tir, Sy'n d'od o rad gariad fy Arglwydd yn wir. Ond mwy na'r bendithion tymmhorol ger llaw Yw'r rhai sydd yn perthyn i'r amser a ddaw, Yn rhad a ddechreuwyd cyn amser erioed, A bery'n rhad etto tra nefoedd yn bod. Yn rhad yr etholwyd - pa'm, Arglwydd, myfi? Draw yn nhragwyddoldeb, yn nghynghor y Tri: Yn rhad y'm dwysbigwyd; dadguddiwyd yn rhad Mai dros fy anwiredd y collwyd y gwaed. Yn rhad 'rwy'n cael manna; a'r dyfroedd di-brin O ffynnon y bywyd, yn rhad cael hyn; Yn rhad y caf gerdded y siwrnai sydd faith; Yn rhad y caf ganu ar ddiwedd fy nhaith.
William Williams 1717-91
Tonau [11.11.11.11]: |
Freely comes every blessing and gift, My table rich, and my cup full, And clothing to warm me, my dwelling and my fire, My lifespan, and my health, from the Lord completely. The air which comes from my Master's home, And the waters to drink far above the stars, The fire from the skies, the sea, and the land, Which come from the gracious love of my Lord truly. But greater than the seasonal blessings at hand Are those that belong to the time to come, Freely they were begun before time ever was, And shall endure still while ever the heavens are. Freely was chosen - why, Lord, I? Yonder in eternity, in the counsel of the Three: Freely was I convicted; it was revealed freely That for my untruthfulness the blood was shed. Freely I am getting manna; and the waters unstintingly From the well of life, getting these; Freely I shall get to walk the journey that is vast; Freely I shall get to sing at the end of my journey. tr. 2018 Richard B Gillion |
|