Yn wresog unwn oll yn awr, Mewn pêr soniarus iaith, I ddadgan clod ein Luniwr mawr, Can's gweddus yw y gwaith. Mae pob creadur yn ei ryw, Yn uchel ddweyd yn nghyd, Mai yr anfeidrol fywiol Dduw Yw'r Bôd a wnaeth y byd. Ysbryd yw ef sy'n gweithio'n rhydd, Yr hyn a fyn a wna, Erioed yr oedd, a byth y bydd, Duw cyfiawn, doeth, a da. Mae'n llenwi'r greadigaeth faith, Ei lygaid sy'n mhob lle, Nef, daear, uffern, ar yn waith A ddelir ynddo 'fe. Awn at ei borth - am danom gŵyr, Gofywn am ei ddawn; Ei lid sydd golledigaeth lwyr, Ei ras sydd fywyd llawn.Roger Edwards 1811-86 Tôn [MC 8686]: St Leonard (Henry T Smart 1813-79) |
Warmly let us all unite now, In a sweet resounding tongue, To declare the acclaim of our great Designer, For worthy is the work. Every creature in its kind is, Loudly saying together, That the infinite living God Is the Being who made the world. A Spirit is he who works freely, What he decides he does, Forever he was, and forever shall be, A righteous, wise and good God. He is filling the vast creation, His eyes are in every place, Heaven, earth, hell, at the same time Are to be held in him. Let us go to his portals - about us he knows, Let us ask for his gift; His anger is total perdition, His grace is full life.tr. 2014,15 Richard B Gillion |
|