Yr Arglwydd fendithiwn, cydganwn ei glod, Ei enw fawrygwn tra byddwn yn bod: Cyhoeddwn ei haeddiant a'i foliant di-fai; Ei ras a'i ogoniant sy'n foroedd di-drai. Yr Arglwydd ddyrchafwn, efe yw ein rhan, Ac ynddo gobeithiwn, mae'n gymorth i'r gwan: Trwy'r ddaear a'r nefoedd ar gynnydd mae'r gân; Ei ras drwy yr oesoedd wna luoedd yn lân. Yr Arglwydd a folwn, cysegrwn ein hoes I'w garu, a gweithiwn dros grefydd y groes: Efe yw ein tarian, awn, awn yn ei nerth, Meddiannwn y Ganaan dragwyddol ei gwerth.W Evans Jones (Penllyn) 1854-1938
Tôn [11.11.11.11]: |
The Lord whom we bless, let us chorus his praise, His name which we magnify as long as we are being: Let us publish his merit and his faultless fame; His grace and his glory which are un-ebbing seas. The Lord whom we exalt, he is our portion, And in him let us hope, he is strength to the weak: Through the earth and the heavens on the increase is the song; His grace through the ages makes multitudes pure. The Lord whom we praise, let us consecrate our life To love him, and let us work for the faith of the cross: He is our shield, let us go, go in his strength, Let us possess the Canaan of eternal worth.tr. 2009 Richard B Gillion |
|