Yr Hwn gan ing fu'n chwysu Y gwaed yn ddafnau mawr, Y Gwr fu gynt yn trengu Ar groes rhwng nef a llawr; Yr Un fu gynt yn gorwedd Yn fud mewn dystaw fedd, Sydd heddyw ar yr orsedd Mewn gogoneddus wedd. Y Cadben mawr gyfododd Heb ofn na braw na brys, Adeiniog lu y nefoedd A'i dygant Ef i'w lys; Dyrchefwch byth, dyrchefwch! Agorwch, ddrysau draw! A Brenin y gogoniant I'w ddwyfol lys a ddaw! Nid preseb ac nid croesau, Nid bedd na dirmyg mwy, Nid llefain cryf na dagrau, Na chwys na chlais na chlwy'; Gogoniant ar ogoniant, Am ddyoddef is y nef, Anrhydedd ac addoliant Byth roddir iddo Ef.Robert Roberts 1774-1849 Tôn [7676D]: Kilmorey (J A Lloyd 1840-1914) |
He who was sweating under anguish The blood in large drops, The Man who was formerly dying On a cross between heaven and earth; The One who was formerly lying Mute in a quiet grave, Is today on the throne In a glorious condition. The great Captain arose Without fear or terror or hurry, The winged force of heaven He lead to his court; Lift ye up forever, lift ye up! Open ye, yonder doors! The King of glory To his divine court shall come! Not a manger and not crosses, Not a grave nor mocking any more, Not a strong cry nor tears, Nor sweat nor bruise nor wound; Glory upon glory, For suffereing below heaven, Honour and adoration Forever be given unto Him.tr. 2019 Richard B Gillion |
|