Yr iachawdwriaeth rad

(Anthem Calfaria)
Yr iachawdwriaeth rad
  A gaed trwy waed yr Oen,
Yw cân fy enaid gwan o hyd
  Yn nghanol byd o boen.

Bydd canu pêr am hon
  Yn Salem lon cyn hir,
Pan una lluoedd nef a llawr
  I chwyddo'r anthem bur.

Yr anthem fydd i gyd
  O hyd am Galfari,
A'r iachawdriaeth fawr ei dawn
  Ddaeth un prydnawn i ni!

Boed Iesu i'm o hyd
  Yn dŵr a tharian gref,
Rhag dyfais Satan a'i holl lid,
  A'i saethau tanllyd ef.
Yr anthem fydd :: Y gân a fydd

William Williams 1717-91

Tonau [MB 6686]:
Dennis (G Nageli 1768-1836)
Franconia (W H Havergal / J B König)
Piedmont (<1876)
Winton (hen alaw Eglwysig)

gwelir:
  Ar grasdir crindir cras
  Byth boed maddeuant rhad
  Mi gana' am waed yr Oen
  O gwrandaw weddi'r tlawd
  'Rwy'n gorwedd dan fy mhwn

(Anthem of Calvary)
The free salvation
  Got through the blood of the Lamb,
Is the song of my weak soul always
  In the middle of a world of pain.

There will be sweet singing about this
  In cheerful Salem before long,
When the hosts of heaven and earth unite
  To swell the pure anthem.

The anthem will be altogether
  Always about Calvary,
And the salvation of great power
  Which came one afternoon for us!

May Jesus be to me always
  As water and a strong shield,
Against the scheme of Satan and all his ire,
  And his fiery darts.
The anthem will be :: The song will be

tr. 2010,14 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~