Yr Iesu ydyw'r Brenin mawr Ei air sy'n llywio nef a llawr; Ei Deyrnas Ef a saif mewn grym Er gwarthaf llid gelynion llym; Ymgrymwn wrth ei orsedd gref, A rhoddwn foliant iddo Ef. O deued holl deuluoedd dyn Yn ymyl Croes yr Iesu'n un; Na fydded unrhyw chwerw sain Yn deffro'r cleddyf yn y wain, Boed heddwch fel yn afon gref, Ac O! nesaed ei Deyrnas Ef. O! dyger ni i'r Deyrnas hon, A boed ei hanian dan ein bron; Ei deddfau glān oleuo'n glir Ein llwybrau yn yr anial dir; Cyfodwn heddiw'n daer ein llef - O! deued dydd ei Deyrnas Ef.Hugh Cernyw Williams (Cernyw) 1843-1937
Tonau [88.88.88]: |
Jesus is the great King His word is governing heaven and earth; His Kingdom shall stand in force Despite the wrath of keen enemies; Let us bow at his strong throne, And render praise unto Him. O let all the families of man come Beside the Cross of Jesus as one; Let there be no bitter sound at all Awakening the sword in the sheath, Let peace be like a strong river, And O may His Kingdom draw near. O let us be led to this Kingdom! And let his nature be under our breast; His holy laws lighten clearly Our paths in the desert land; Let us raise earnestly today our cry - O let the day of His Kingdom come.tr. 2016 Richard B Gillion |
|