Yr Iôr o'i nefoedd raslawn A edwyn ffordd y cyfiawn, A dweded dynion ym nhob man Mai da fydd rhan yr uniawn: Daioni a thrugaredd Fydd iddo yn ymgeledd; A chaiff oleuni'r nef drwy'r byd I'w dywys hyd y diwedd. Pan ddêl cysgodau'r hwyrddydd Ei obaith ef ni ddiffydd; Ac yn ei wedd wrth fynd i lawr Bydd golau'r wawr dragywydd. Pan ddryllir pyrth y beddau Fe ddring i'r uchelderau Fel haul i'w daith drwy'r ŷybren faith Foregwaith heb gymylau.John T Job 1867-1938 Y Goleuad 1922 Tôn [7787D]: Noddfa (J D Jones 1827-70) |
The Lord from his gracious heaven Shall recognize the way of the righteous, And let men say in every place That good shall be the portion of the upright: Goodness and mercy Shall be his succour; And he shall get the light of heaven throughout the world To lead him until the end. When the shadows of evening come His hope shall not extinguish; And in his countenance on going down Shall be the light of the eternal dawn. When the portals of the graves are smashed He shall climb to the heights Like the sun on its course through the vast sky One morning without clouds.tr. 2018 Richard B Gillion |
|