Yr un yw'r Duwdod mawr erioed

(Anghyfnewidioldeb Duw)
Yr un yw'r Duwdod mawr erioed
  Heb gysgod troedigaeth;
Yr un ym mhob perffeithrwydd yw,
  A'r un yw Duw'n ei arfaeth.

Adfeilia'r greadigaeth hon,
  A'r ddaear gron a gryna;
Ond ni heneiddia Duw y nef,
  A'i allu ef ni phalla.

Fy enaid, rho dy hun yn rhwydd,
  I ddwylaw'r Arglwydd bywiol;
A'i ddirfawr râs a fyddo'th ran,
  A'th nefoedd annherfynol.
Benjamin Francis 1734-99

[Mesur: MS 8787]

gwelir: Dyrchafwn annherfynol glôd

(The unchangeability of God)
The same is the great Godhead always
  Without a shadow of turning;
The same in every perfection he is,
  And the same is God in his purpose.

This creation shall decay,
  And the round earth shall tremble;
But the God of heaven will not age,
  And his power shall not fade.

My soul, put thyself readily,
  Into the hands of the living Lord;
And his enormous grace shall be thy portion,
  And thy endless heaven.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~