Yr wyf yn dod O Iesu mawr

("Mi a godaf, ac a af.")
Yr wyf yn dod, O! Iesu mawr
  Mae d'alwad ar fy ôl -
Gan adael holl bleserau'r llawr
  A'm holl deganau ffôl.

'R wy'n dod, ond O! mae'r ffordd yn faith,
  'R wyf wedi crwydro 'mhell;
'R wyf wedi mynd ar ddyrys daith
  I chwilio am wlad sydd well.

'R wy'n dod, 'does yma ddim i'w gael,
  'R wyf bron newynu'n wir;
Wrth geisio byw ar gibau gwael
  Mi drengaf cy bo hir.

Yr wyf yn dod o dan fy maich,
  Ac mewn tywyllwch du;
O! Iesu, estyn im dy fraich,
  I'm nerthu a'm harwain i.

'R wyn dod, gan bwyso ar dy air,
  A dadlau rhin dy waed;
'R wy'n dod, ac os fy ngholli wnair,
  Fe'm collir wrth dy draed!
David Evans 1833-1920

Tonau [MC 8686]:
Brooklyn (W H Havergal neu L Mason)
St Mary (Sallwyr Edmund Prys 1621)
Tabernacl (W Emlyn Jones 1841-1914)

("I will arise and go.")
I am coming, O great Jesus
  Thy call is after me -
Leaving all the pleasures of earth
  And all my foolish trinkets.

I'm coming, but oh, the road is long!
  I've wandered far;
I've been on a troublesome journey
  To seek for a land that is better.

I'm coming, there is nothing here to have,
  I'm almost really starving;
While trying to live on wretched pods
  I will die before long.

I am coming under my burden,
  And in black darkness;
O Jesus, extend to me thy arm,
  To strengthen me and lead me.

I'm coming, leaning on thy word,
  And arguing the virtue of thy blood;
I'm coming, and if I am to be dropped,
  I will be dropped at thy feet!
tr. 2011 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~