Ysbryd Sanctaidd dyro'r golau Ar dy eiriau di dy hun, Agor inni'r Ysgrythurau, Dangos inni Geidwad dyn. O sancteiddia'n myfyrdodau Yn dy wirioneddau byw, Crea ynom ddymuniadau Am drysorau meddwl Duw. Gweld yr Iesu, dyna ddigon Ar y ffordd i enaid tlawd; Dyma gyfaill bery'n ffyddlon, Ac a lŷn yn well na brawd.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 Tôn [8787]: Stuttgart (C F Witt 1660-1716) |
Holy Spirit give the light On thy own words, Open to us the Scriptures, Show us the Saviour of man. Oh, sanctify our meditations In thy living truths, Create in us desires For the treasures of God's thought. To see Jesus, that is sufficient On the way for the poor soul; Here is a friend who will remain faithful, And who will stick better than a brother.tr. 2015 Richard B Gillion |
|