Adnewydda f'ysbryd, Arglwydd, Ar dy ddydd, ac yn dy waith; Llanw f'enaid â gorfoledd I'm gwroli ar fy nhaith: Gyda'r awel gad im glywed Llais o'r nef yn eglur iawn Yn cyhoeddi bod i'm henaid Heddwch a gollyngdod llawn. Gad im ddringo copa'r mynydd Rydd lawn olwg ar y tir Lle mae seintiau ac angylion Yn mwynhau y bywyd gwir: Lle mae bywyd yn anfarwol, Bywyd bery'n ieuanc byth; Yno 'nghangau pren y bywyd, Uwchlaw angau, gwnaf fy nyth. Evan Aeron Jones (Ieuan Aeron) 1825-1906
Tonau [8787D]: |
Renew my spirit, Lord, For thy day, and in thy work; Fill my soul with praise To encourage me on my journey: With the breeze let me hear A voice from heaven very clearly Announcing to my soul Peace and full remission. Let me climb the summit of the mountain Have a completely open view of the land Where the saints and angels Enjoy the true life: Where there is immortal life, Life remaining young forever; There in the branches of the tree of life, Beyond death, I will make my nest. tr. 2008 Richard B Gillion |
|