Afon redodd tan dy galon, Lifeiriol fawr o ddwr a gwa'd, Ynddi golchwyd pechaduriaid Mwyaf welwyd oll yn rhad; Fel y lili, Gwedi cānu yn dy wa'd. Dyma'r Ffynon fawr agorwyd I dŷ Ddafydd oll yn rhad, Sydd yn golchi ffiaidd feiau Yr oll etholedig had; Rho i minau, Ynddi gael fy llwyr lanhau. Llu o bechaduriaid aflan Olchwyd ynddi cyn fy mod, Pur rinweddol fyth yn para, Fel y funyd gynta' erio'd; De'wch y cleifion, Oll i'r Ffynnon gael iachâd.Morgan Rhys 1716-79 Golwg o Ben Nebo, 1764.
Tonau [878747]: gwelir: Ffyddlon gyfaill pechaduriaid |
A river ran under thy heart, Greatly streaming with water and blood, In it the greatest sinners seen Were all washed freely; Like the lily, Having been bleached in thy blood. Here is the great Fount that was opened For the house of David all freely, Which is washing the detestable faults Of all the chosen seen; Grant me also, In it to get my complete cleansing. A host of unclean sinners Were washed in it before I was, Pure, virtuous, forever enduring, Like the first ever minute; Come, ye wounded, All to the Fount to get healing.tr. 2019 Richard B Gillion |
|