Agorwyd teml yr Arglwydd yn y nef, A gwelwyd arch ei lân gyfammod Ef; Holl ryfeddodau Person Crist a'i waith A welir yno i dragwyddoldeb maith. Cyfiawnder Duw sydd yno'n ddysglaer iawn, A'r gyfraith bur bob iot ohoni'n llawn; Ond i bechadur melys yw y sain, Fod trugareddfa hefyd rhwng y rhain. Y tanllyd gledd fu'n effro iawn cyn hyn, Taranau a mellt ofnadwy Sinai fryn, Sy'n awr yn dawel yn yr Arch ddi lyth, Y gair GORPHENWYD a'u tawelodd byth. Mae'r Archoffeiriad yn taenella'r gwaed, Mewn gwisgoedd sanctaidd, llaesion, hyd ei draed: O fewn y llen, sancteiddiaf lŷs y nef, Ac enwau'r llwythau ar ei ddwyfron Ef. Priodoliaethau'r nefoedd yn gytûn Sydd yno'n gwenu ar golledig ddyn; Mae hedd yn awr o'r nef i'r llawr yn lli', A noddfa gref o fewn y nef i ni. Crist ydyw'r arch a'r drugareddfa rad, Yn enw Hwn anturiwn at y Tad, Fe wrendy gŵyn pechadur heb ei ladd, Fe gymmer blaid yr enaid isel radd.James Hughes (Iago Trichrug) 1779-1844
Tonau [10.10.10.10]: |
The Lord's temple was opened in heaven, And seen was the ark of His holy covenant; All the wonders of the Person of Christ and his work Are to be seen there for a vast eternity. God's righteousness is there very much shining, And the pure law with every jot of it fulfilled; But to sinners sweet is the sound, That there is a mercy-seat also between these. The flaming sword was very alert before this, Terrible thunders and lightening of Sinai hill, Which are now quiet in the unfailing Ark, The word FINISHED has stilled them forever. The High-priest pours out his blood, In holy, flowing vestments down to his feet: Within the curtain, the most holy court of heaven, And the names of the tribes on His breast. The attributes of the heavens in agreement Are there smiling on lost man; There is now peace from heaven to earth as a flood, And a strong refuge within heaven for us. Christ is the ark and the free mercy-seat, In His name let us venture to the Father, He will hear the complaint of the sinner without killing him, He will take the side of the soul of low degree.tr. 2011 Richard B Gillion |
|