Anfeidrol Dduw rhagluniaeth, A Thad y greadigaeth, Coronaist eto'r flwyddyn hon Â'th dirion ddoniau'n helaeth: Ti Arglwydd pob daioni, Beth mwy a dalwn iti Na chydymostwng, lwch y llawr, Yn awr i'th wir addoli? Cyfoethog yw dy ddoniau, A rhad dy drugareddau; I ni a'n plant rhag newyn du, Mor gu dy dadol wenau! Mae gwên dy ŵyneb grasol, O fwriad cariad dwyfol, I'w weld yn amlwg ar bob llaw, Mewn haul a glaw amserol. Ni ddaeth un haint echryslon Na deifiol oer awelon At ddrysau'n pebyll ni, O! Dduw, Gan beri briw i'n calon: Anedlaist nerth a bywyd, Llawenydd, llawnder, iechyd, Drwy'r ddaear faith, er cael mwynhau Ein dyddiau mewn dedwyddyd. Na foed i'th drugareddau Ddiferu ar ein llwybrau A ninnau'n fyddar ac yn fud O hyd i'th nef-rasusau; Ein telyn, Iôr, cyweiria I seinio Halelwia: Tragwyddol foli, fyth heb boen, Yr Oen fu ar Galfaria.John Davies (Gwyneddon) 1832-1904
Tonau: |
Immeasurable God of providence, And Father of the creation, Thou hast crowned again this year With thy kindly, ample gifts: Thou Lord of every goodness, What more shall we pay to thee Than to submit, dust of the earth, Now to thy true adoration? Rich are thy gifts, And free thy mercies; To us and our children from black starvation, So dear thy paternal smiles! The smile of they gracious face, From the intention of divine love, To see it clearly on every hand, In timely sun and rain. Not one horrible infection Nor blasting cold breezes, came To the doors of our tents, O God! Causing hurt to our heart: Thou didst breathe strength and life, Joy, fullness, health, Throughout the vast earth, in order to obtain the enjoyment Of our days in happiness. May thy mercies not Drip on our path And we deaf and mute Still to thy heavenly graces; Our harp, Lord, repair To resound Hallelujah: Eternal praise, forever without pain, Of the Lamb who was on Calvary.tr. 2008,23 Richard B Gillion |
|