1,2,3,(4); 1,4,(5,6); 1,6,7; 1,6,8. Anweledig! 'rwy'n dy garu, Rhyfedd ydyw nerth dy ras: Tynnu f'enaid i mor hyfyd O'i bleserau penna'i maes; Gwnaethost fwy mewn un munudyn Nag a wnaethai'r byd o'r bron - Ennill it eisteddfa dawel Yn y galon garreg hon. 'Chlywodd clust, ni welodd llygad, Ac ni ddaeth i galon dyn Mo ddychmygu, chwaethach deall Natur d' hanfod Di dy Hun; Eto'r ydwyf yn dy garu'n Fwy na dim sydd is y rhod, A thu hwnt i ddim a glywais, Neu a welais eto 'rioed. Uchder nefoedd yw dy drigfan, Llawer uwch na meddwl dyn, Minnau mewn iselder daear, Bechadurus waelaf un; Eto, nes wyt Ti i'm henaid, A'th gyfeillach bur sydd fwy A chan' gwell, pan fyddych bellaf, Na'u cyfeillach bennaf hwy. Ac am hynny Ti gei'r enw Ti gei'r fuddugoliaeth hwn Ti gei'r clod, y nerth a'r gallu, A'r gogoniant fore a nawn; Fe gaiff seintiau ac angylion A cherubiaid pur yn un Seinio i maes i dragwyddoldeb, It' wneud pabell gyda dyn. Minau bryfyn gwael o'r ddaear Rof fy llais yn mhlith y llu, Saint, cerubiaid, ac angylion, A'r seraphiaid tanllyd fry; O! na chawn i ymgymysgu A sêr y boreu mewn un dôn, Rhown fy llais i mewn i'r anthem Am ddyoddefaint addfwyn Oen. Bydd dy degwch byth yn newydd, - Byth o newydd enyn dân, Tros holl oesoedd tragwyddoldeb, Byth heb flino yn y blaen: Fflam angerddol heb un terfyn, Trwy holl raddau'r nef yn un; Hi barha i losgi'n oleu Tra parhao Duw ei hun. Iesu, Ti yw ffynnon bywyd, Bywyd dedwydd i barhau; Pob cysuron is y nefoedd, Ynot Ti dy hun y mae; Nis gall croes, na gwae, na chystudd, Wneuthur niwed iddynt hwy, Gafodd nerth i wneyd eu noddfa, Yn dy ddwyfol farwol glwy'. Cauwch lygaid, nac agorwch, Ar un gwrthddrych is y ne'; Craffa f'enaid olwg syml Ar ei degwch dwyfol E': Mae ei hanfod, mae ei enw, Mae ei Berson sanctaidd pur, Gymaint uwch teganau natur, Ag yw'r nefoedd uwch y tir. - - - - - Anweledig, 'rwy'n dy garu, Rhyfedd ydyw nerth dy ras, Dynu f'enaid i mor hyfyd, O'i bleserau penaf maes; Ti wnest fwy mewn un mynydyn, Nag a wnaethai'r byd o'r bron, Ennill it' eisteddfod dawel, Yn y galon gareg hon. Uchder nefoedd yw dy drigfan, Llawer uwch na meddwl dyn, Minnau mewn iselder daiar Bechadurus waelaf un; Eto agosach wyt i'm henaid, A'th gyfeillach bur yn fwy, A chan' gwell pan byddost bellaf, Na'u cyfeillach benaf hwy. Ac am hynny Ti gei'r enw Ti gei'r fuddugoliaeth hwn Ti gei'r clod, y nerth a'r gallu, A'r gogoniant fore a nawn; Fe gaiff seintiau ac angylion A cherubiaid pur yn un Seinio i maes i dragwyddoldeb, It' wneud pabell gyda dyn. 'Rwyf yn dyfod at dy orsedd, O ryw hyder cryf yn llawn, Ac yn edrych ar dy hanfod, Fy hapusrwydd foreu a nawn, Ac mae olwg hyny'n gweithio Yn fy ysbryd ryw gryfhau, Gan roi clwyf ar fy mhechodau, Yn dy wyddfod sy'n gwanhau.William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Clustiau cnawd ni allant glywed Iesu Ti yw ffynnon bywyd Minau bryfyn gwael o'r ddaear |
Unseen, I love thee! A wonder is the power of thy grace: To draw my soul so sweetly Away from its chief pleasures; Thou didst more in one moment Than the world had ever done - To win to thyself a quiet throne In this heart of stone. No ear heard, nor any eye saw Nor came it to man's heart Nor to imagine, less to understand The nature of Thy own being; Still I am in thy love More than anything that is under the sky, And beyond anything that I heard, Or that I saw ever yet. The height of heaven is thy dwelling place, Much higher than man's thought, Whereas I in the lowness of earth, A sinful most wretched one; Still, near art Thou to my soul, And thy pure friendship is more And even better, when thou be furthest, Than their supreme friendship. And therefore Thou shalt get the name Thou shalt get this victory Thou shalt get the praise, the strength and the power, And the glory, morning and afternoon; Saints and Angels And holy cherubim as one shall get To sound abroad unto eternity, Thy making a tabernacle with man. I, a base worm from the earth, I will put my voice in the midst of the throng, Saints, cherubim, and angels, And the fiery seraphim above; Oh that I might get to mingle With the morning stars in one tune, I would put my voice into the anthem About the suffering of the gentle Lamb. Thy fairness will be forever new, - Forever from a newly kindled fire, Across all the ages of eternity, Forever without wearying henceforth: A passionate flame with no limit, Through all the degrees of heaven as one; It will continue to burn as a light As long as God himself endures. Jesus, Thou art the fount of life, A happy life to endure, Every comfort below the heavens, Is in Thee Thyself; No cross, nor woe, nor affliction, can Do any injury to them, Who got the strength to make their refuge, In thy divine mortal wound. Close your eyes, nor open them, On any object under heaven; Stare my soul with a simple view At his divine fairness: His essence is, his name is, His pure, sacred Person is, So much higher than nature's trinkets, As the heavens are higher than the land. - - - - - Unseen One, I love thee, A wonder is the strength of thy grace, Drawing my soul so delightfully, From the chief pleasures there are; Thou didst more in one minute That the world would ever do, To win thee a quiet enthroning, In this heart of stone. The height of heaven is thy dwelling, Much higher than the thought of man, Whereas I in the lowliness of earth The worst sinful one; Still closer art thou to my soul, And thy pure friendship more, And a hundred times better when thou art most distant, Than their chief friendship. And for this Thou shalt get the name Thou shalt get this victory Thou shalt get the acclaim, the strength and the power, And the glory morning and evening; Saints and angels shall get With pure cherubim as one To sound out for an eternity, That thou dost tabernacle with man. I am coming to thy throne, Of some strong confidence full, And looking on thy essence, My happiness morning and evening, And this view of mine is working In my spirit some strengthening, By giving a wound to my sins, In thy presence which are weakening.tr. 2008,19 Richard B Gillion |
Though unseen, O Lord, I love Thee, Wondrous is thy saving might, Thus to wean my soul so sweetly From it's sinful chief delight: More thou didst in one short instant Than a world could e'er have done, Winning Thee a happy dwelling In this sterile heart of stone. - - - - - Though unseen, O Lord, I love Thee, Wondrous is thy saving might, Thus to wean my soul so sweetly From it's sinful chief delight: More thou didst in one short instant Than a world could e'er have done, Winning Thee a happy dwelling In this sterile heart of stone.1854 Joseph Morris |