At(t)olwg Arglwydd gwrando

(Pwyso ar Drugaredd)
Atolwg, Arglwydd, gwrando,
  'R wy'n curo wrth dy ddôr,
Gan deimlo 'maich yn drymach
  Na thywod mân y môr:
Er cymaint yw fy llygredd,
  Mwy dy drugaredd Di;
O! crea anian fywiol,
  Anfarwol, ynof fi.

Daw dydd o brysur bwyso
  Ar grefydd cyn bo hir;
Ceir gweld pwy sydd â sylwedd,
  A phwy sydd heb a gwir:
O! Dduw, rho im adnabod
  Ar f'ysbryd ôl dy law,
Cans dyna'r nod a'r ddelw
  Arddelir ddydda ddaw.
dydd o brysur :: amser prysur
brysur :: sobor

1: Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850

2: John Williams (Ioan ab Gwilym) 1728-1806
    diwygeidig gan | revised by

John Thomas 1730-1804?

Tonau [7676D]:
Abertawe (Salmydd Marot)
Caerllyngoed (Stephen Llwyd 1794-1854)
Jabez (alaw Gymreig)
Llydaw (alaw Lydawig)
Talybont (<1869)
Whitford (John A Lloyd 1815-74)

gwelir:
  Daw dydd o brysur bwyso
  Mae anghrediniaeth beunydd

(Leaning on Mercy)
I beseech thee, Lord, listen,
  I am knocking at thy door,
Feeling my burden heavier
  Than the fine sand of the sea:
Despite how great is my corruption,
  Greater is thy mercy;
O create a lively, immortal
  Nature in me!

A day of swift reckoning is coming
  On religion before long;
It will be seen who is with substance,
  And who is without the truth:
O God, grant me to know
  Upon my soul the print of thy hand,
Since that is the mark and the image
  To be recognised on the coming day.
day of swift :: time of swift
swift :: solemn

tr. 2019,23 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~