Blant ffyddlon S(e)ion dewch
Plant ffyddlon Seion dewch

1,2,3,4,5,6,7,8;  1,2,3,(5,6);  1,2,((3),5,6),8;  1,2,4,(7,8);  1,2,5;  1,2,(8),6;  1,6,2,3,5.
(Llawenydd Sion am ddyfodiad y Messia)
Blant ffyddlon Sïon dewch,
  A llawenhewch i gyd,
Y'mlaen â chwi fel milwyr da,
  Yn llon er gwaetha'r llid,
O hyfryd ddedwydd awr,
  Messia mawr a gaed;
Henffych i'r dydd a'r bore daeth,
  Yr iachawdwriaeth rad.

Er ini golli'r hedd,
  Yn mharadwysedd wiw,
A bod yn fyr o gadw'r fraint,
  Myn'd dan ddigofaint Duw:
Ni gawsom Hâd y wraig,
  Yn gadarn graig i'n traed
Henffych i'r dydd a'r bore daeth
  Yr iachawdwriaeth rad.

Addewid gafwyd, do,
  'Nol ini syrthio 'mhell,
Arfaethol ras, hawl ini roed,
  Gaw'd ar gyfammod gwell;
Mae'r sylfaen yn ddigryn.
  Ni chollir un o'r hâd;
Henffych i'r dydd a'r bore daeth
  Yr iachawdwriaeth rad.

O blant, y fendith fawr
  A ddaeth yn awr i ni,
Mae genym Ddyddiwr gyda Duw,
  Yn c'oeddi'r Iubili:
Maes o'r caethiwed du,
  Rhai gafodd y rhyddhâd:
Henffych i'r dydd a'r boreu daeth
  Yr iachawdwriaeth rad.

Er gwaetha satan sydd,
  Yn temtio ddydd a nos,
Mae gennym hawl i'r trysor da,
  Sy'n para o oes i oes;
Ffordd newydd gafwyd, do,
  I deithio at y Tad:
Henffych i'r dydd a'r bore daeth
  Yr iachawdwriaeth rad.

Drachefn llawenhewch
  Chwi etholedig ri',
Mae'r oruchafiaeth wedi do'd,
  Trwy Crist ein priod ni;
Er cyfeiliorni'n hir,
  Cawn dd'od
      i dir ein gwlad;
Henffych i'r dydd a'r bore daeth,
  Yr iachawdwriaeth rad.

I'n gwared daeth ein ffrynd,
  Pan oe'm yn mynd ar goll,
Mae pob cyflawnder yntho ef,
  Yn trigo oll yn oll;
Can's felly'r Oen dinam,
  A wnaethpwyd gan y Tad;
Henffych i'r dydd a'r bore daeth,
  Yr iachawdwriaeth rad.

Wel, dyma'r newydd da
  A lawenycha'r trist,
Mae'r ddraig a Satan er ein mwyn,
  Mewn cadwyn gan ein Crist;
Pan 'sigodd Ef ei siol,
  Ennillodd nefol wlad:
Henffych i'r dydd a'r bore daeth
  Yr iachawdwriaeth rad.
Blant ffyddlon :: Plant ffyddlon
Sïon :: Seion
Er ini golli'r hedd :: Ar ol ein colled ddwys

Yn mharadwysedd wiw ::    
    Yn Mharadwysaidd wiw
    A'r lân Baradwys wiw
    Yn y Baradwys wiw
    Gynt yn Mharadwys wiw
    Yn hynod Eden wiw

syrthio 'mhell syrthio y'mhell :: syrthio'n mhell
hawl ini roed :: hawl i'n a roed
O blant, y :: Anfeidrol
Drachefn llawenhewch :: O! llawenhewch drachefn

William Williams 1717-91

Tonau [MBD 6686D]:
Amana (J H Roberts 1848-1924)
Bach (<1875)
Bohemia (<1876)
Bonar (<1905)
Iona (alaw Gymreig)
  Saxonia (Music Book of John W Williams 1852-3)
Waterloo (<1829)
  Worcester (1835)

gwelir: Drachefn llawenhewch

(Zion's joy at the coming of the Messiah)
Faithful children of Zion, come,
  And all rejoice,
Onward with you like good soldiers,
  Joyfully despite the anger,
O delightful happy hour,
  The great Messiah has come;
Hail to the day and the morn on which came,
  The free salvation.

Despite our losing the peace,
  In worthy Paradise,
And being short of keeping the privilege,
  Going under the wrath of God:
We got the seed of the woman,
  As a firm rock to our feet:
Hail to the day and the morn on which came,
  The free salvation.

The promise was had, yes,
  After our falling far away,
Ordained grace, a right given to us,
  Gotten by a better covenant;
The foundation is unshakeable.
  Not one of the seed will be lost;
Hail to the day and the morn on which came,
  The free salvation.

O children, the great blessing
  Has come now to us,
We have a Comforter with God,
  Publishing the Jubilee:
Out of the black captivity,
  Some got the freedom:
Hail to the day and the morn on which came,
  The free salvation.

Despite Satan, who is
  Tempting day and night,
We have a right to the good treasure,
  Which endures from age to age;
A new way was obtained, yes,
  To travel to the Father:
Hail to the day and the morn on which came,
  The free salvation.

Again rejoice
  Ye chosen number,
The victory has come,
  Through Christ our bridegroom;
Despite wandering for so long,
  We will get to come
      to the territory of our land;
Hail to the day and the morn on which came,
  The free salvation.

To deliver us our friend came,
  When were were going astray,
All righteousness is in him,
  Dwelling all in all;
Since thus the innocent Lamb,
  Was made by the Father;
Hail to the day and the morn on which came,
  The free salvation.

See, here is good news
  Which gladdens the sad,
The dragon and Satan, for our sake
  In chains by our Christ;
When He crushed his skull,
  He won the heavenly land:
Hail to the day and the morn on which came,
  The free salvation.
::
::
Despite our losing the peace :: After our deep loss

In worthy paradise ::      
      In worthy Paradise
      And the pure worthy Paradise
      In the worthy Paradise
      Of old in worthy Paradise
      In notable, worthy Eden

:: ::
a right given to us :: a right which was given to us
O children, the :: An immeasurable
Again rejoice :: O rejoice again

tr. 2010,24 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~