Bywha dy waith, O Arglwydd mawr, Dros holl derfynau'r ddaear lawr Drwy roi tywalltiad nerthol iawn O'r Ysbryd Glān a'i ddwyfol ddawn. Bywha dy waith, - a dyger llu O feddiant y tywyllwch du, A rhwymau Satan, y'mhob gwlād, I deyrnas wiw yr Iesu mād. Bywha dy waith o fewn ein tir, Arddeliad mawr fo ar y gwir; Mewn nerth y bo'r Efengyl lawn, Er iachawdwriaeth llawer iawn. Bywha dy waith, a Sion wiw Gynyddo'n hardd gan gynnydd Duw; Disgleiried ei sancteiddrwydd hi, Er mawl i'th ras a'th Ysbryd di. Bywha dy waith o fewn dy dŷ, A gwna dy weision oll yn hy: Gwisg hwynt ā nerth yr Ysbryd Glān, A'th air o'u mewn fo megis tān. Bywha dy waith, O Arglwydd mawr, Yn ein calonnau ninnau nawr, Er marwhau pob pechod cas, A chynnydd i bob nefol ras. marwhau pob pechod :: difa pob rhwy bechod John Roberts (Minimus) 1808-80
Tonau [MH 8888]: |
Revive thy work, O great Lord, Over all the ends of the earth below Through giving a very heavenly outpouring Of the Holy Spirit and his divine gift. Revive thy work, - and a host shall be brought From the possession of the black darkness, And bonds of Satan, in every land, To the proper kingdom of worthy Jesus. Revive thy work, within our land, May there be a great profession of the truth, In strength may the full Gospel be, Resulting in very much salvation. Revive thy work, and worthy Zion Shall grow beautifully by God's increase; May her holiness shine, For the praise of thy grace and thy Spirit. Revive thy work within thy house, And make all thy servants bold: Clothe them with the strength of the Holy Spirit, And thy word within them be like fire. Revive thy work, O great Lord, In our own hearts now, To mortify every hateful sin And cause growth to every heavenly grace. to mortify every ... sin :: to eradicate every kind of ... sin tr. 2008,18 Richard B Gillion |
|