Caraf groes yr addfwyn Iesu, Lle dioddefodd er fy mwyn; Baich y farn oedd yn fy llethu, Mynnodd Ef Ei Hun ei ddwyn: Hawdd i minnau Ddwyn y groes a'i ddilyn mwy. Er y dirmyg a'r gwaradwydd, Er y gwaed a'r hoelion dur, Gogoneddus yw fy Arglwydd Yn Ei wynder dwyfol bur; Gwridodd heulwen Yn Ei lewyrch sanctaidd Ef. Ni omeddodd Ei ddyrchafu Ar y groes i olwg byd; A'i haeddiannau yn ehangu Pyrth y nef fu 'nghau cyhyd; Dal i esgyn Mae dynoliaeth ar Ei ôl. Gwelaf yno ddwyfol haeddiant Yn distewi hawliau'r nef; Clywaf yno sŵn maddeuant Yn yr Iawn a dalodd Ef; Rhaid i gariad Gael ymglymu wrth y groes! Mae fy mywyd yn Ei farw, Mae fy ngwynfyd yn Ei loes; A diolchaf am fy nghadw Ar fy neulin wrth y groes; Tyn yn fuan Gyrrau'r ddaear ato'i Hun.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 878747] |
I love the cross of the gentle Jesus, Where he suffered for my sake; The burden of the judgment that was oppressing me, He insisted on bearing it Himself: Easy for me To carry the cross and follow him evermore. Despite the scorn and the shame, Despite the blood and the steel nails, Glorious is my Lord In His pure, divine brightness; The sunshine blushed At His holy brilliance. He did not refuse to be lifted up On the cross to the view of the world; And his merits widening The portals of heaven that were closed so long; Continuing to ascend Is humanity after Him. I see there divine merit Silencing the claims of heaven; I hear there the sound of forgiveness In the Ransom He paid; Love had to Get fastened to the cross! My life is in His dying, My blessedness in in His throes; And I give thanks for keeping me On my knees at the cross; He soon shall draw The corners of the earth to Himself.tr. 2019 Richard B Gillion |
|