Ceir dihangfa rhag marwolaeth Trwy waed yr Oen; Nid oes ffordd o waredigaeth Ond gwaed yr Oen; Gwelir miloedd wedi eu golchi Draw yn glanio tir goleuni, Heb frycheuyn chwaith na chrychni, Trwy waed yr Oen. Fe agorwyd ffordd gyfreithlon Trwy waed yr Oen, I ryddhau troseddwyr caethion, Trwy waed yr Oen: Haleliwia, byth heb dewi Fydd y gān yn ngwlad goleuni, Gan y dyrfa ddirifedi, Am waed yr Oen. Wedi cael eu gynau'n wynion, Trwy waed yr Oen, Cael yr hedd, y wledd, a'r goron, Trwy waed yr Oen, Peraidd bynciant Haleliwia, Am yr Iawn roed ar Galfaria: Cofiant byth am eu diangfa Trwy waed yr Oen.William C Williams (Caledfryn) 1801-69 a David Thomas, Garn Dochan.
priodolwyd hefyd i
Tonau [8484.8884]: gwelir: Cafwyd modd i olchi'r halog Fe agorwyd ffordd gyfreithlon |
An escape is had from death Through the blood of the Lamb; There is no way of deliverance But through the blood of the Lamb; Thousands are to be seen having been washed Yonder landing on the territory of light, Through the blood of the Lamb. A lawful way was opened Through the blood of the Lamb, To free captive transgressors, Through the blood of the Lamb: Hallelujah, forever without falling silent Shall be the song in the land of light, By the innumerable throng, About the blood of the Lamb. Having got their white robes, Through the blood of the Lamb, Got the peace, the feast, and the crown, Through the blood of the Lamb, Sweetly they sing Hallelujah, About the Atonement given on Calvary: They remember forever their escape Through the blood of the Lamb.tr. 2019 Richard B Gillion |
|