Clodforaf enw Brenin nef, Mae ynddo ef bob digon; Digon o nerth i'm henaid gwan Pan fyddwyf dan drallodion. Mae digon o drugaredd hael I'r truan gwael ei gyflwr; Digon i lenwi iawnder Duw, A chadw'n fyw droseddwr! Mae digon o lawenydd pur, A chysur mewn achosion; Digon o iechyd rhag pob cur, Pob clwyf a dolur calon. Digon o rinwedd yn parhau I lwyr lanhau halogrwydd; A digon o ogoniant maith I'm gwneud yn berffaith ddedwydd. Am hyn yn Nuw hyderu wnaf - Gorffwysaf ar ei eiriau Am bethau sydd, am bethau ddaw, Tu yma a thraw i angau.Anadnabyddus Casgliad o Hymnau ... Wesleyaidd 1876
Tonau [MS 8787]: |
I will extol the name of the King of heaven, In him is every sufficiency; Enough strength for my weak soul Whenever I am under troubles. The is enough generous mercy For the wretch of abject condition; Enough to fulfil God's righteousness, And keep alive a transgressor! There is enough pure joy, And comfort in affairs; Enough healing for every blow, Every sickness and sadness of heart. Enough virtue enduring To completely cleanse defilement; And enough great glory To make me perfectly happy. For this in God I will be confident I will rest on his words For things that are, for things that come, This and the other side of death.tr. 2010 Richard B Gillion |
|