Cof am y cyfiawn Iesu, Y Person mwyaf hardd, A'r noswaith drom anesmwyth Bu'n chwysu yn yr ardd; A'i chwys yn ddafnau cochion Yn syrthio ar y llawr: Bydd canu am ei gariad I dragwyddoldeb mawr. Cof am y llu o filwyr Ā'u gwayw-ffyn yn dod I ddal yr Oen diniwed Na wnaethai gam erioed: Gwrandewch y geiriau ddwedodd, (Pwy allsai ond Efe?) "Gadewch i'r rhain fynd ymaith, Cymerwch Fi'n eu lle." Cof am yr wyneb siriol, Y poerwyd arno'n wir; Cof am y cefen gwerthfawr, Lle'r arddwyd cwysau hir; O! annwyl Arglwydd Iesu, Boed grym dy gariad pur Yn torri 'nghalon galed Wrth gofio am dy gur.William Lewis, Llangloffan, fl.1786-94. Galar a Gorfoledd y Saint 1788
Tonau [7676D]: |
Remember the righteous Jesus, The most beautiful Person, And the heavy, uneasy night He was sweating in the garden; And his sweat as red drops Falling on the ground: There will be singing of his love For a great eternity. Remember the host of soldiers With their lances coming To seize the innocent Lamb Who had never done wrong: Listen to the words he said, (Who could but he?) "Let these go away, Take me in their place." Remember the cheerful face, Actually spat upon; Remember the precious back, Where long furrows were ploughed; O dear Lord Jesus, May the force of thy pure love Break my hard heart On remembering thy anguish.tr. 2008 Richard B Gillion |
O Jesus Christ, the righteoustr. Rev Robert Parry Cān a Mawl / Song and Praise 1918 Tune [7676D]: Via Crucis (E T Davies 1878-1969) |