Colled pob blodeuyn hyfryd

(Gweddi Wladgarol)
Colled pob blodeuyn hyfryd
  Ei holl degwch is y rhod;
Doed salwineb ar bob wyneb
  Y cre'duriaid sydd yn bod, -
Tegwch byd fydd ynghyd
Oll yn wyneb Prynwr byd.

Pe diffoddai'r heulwen ddisglair
  Yn yr awyr deneu las,
A phe treuliai'r sêr y fflamau
  Ynddynt sydd o dân i maes:
Mi gaf fyw, gyda'm Duw,
Mewn disglaerdeb heb ei ryw.

Mi gaf fod o flaen yr orsedd,
  Mi gaf ganu'r anthem bur,
Pan ddarfyddo sôn am ddaear,
  Son am foroedd, sôn am dir:
Dwyfol loes, angeu'r groes,
Fydd y canu ddydd a nos.
William Williams 1717-91

Tonau [8787337]:
Arnsberg (Joachim Neander 1650-80)
Gweddi Wladgarol (Caradog Roberts 1878-1935)

gwelir:
  Doed y diluw i deyrnasu
  Ymneilldüwch bethau'r ddaear

(Patriotic Hymn)
Let every delightful flower lose
  All its fairness under the sky;
Let ugliness come upon every face
  Of the creatures that there are, -
The world's fairness shall be altogether
All in the face of the world's Redeemer.

If the radiant sunshine were extinguished
  In the thin blue sky,
And if the stars spent the flames
  Of fire that are in them out:
I shall get to live, with my God,
In radiance without its like.

I shall get to be before the throne,
  I shall get to sing the pure anthem,
When mention of earth shall vanish,
  Mention of seas, mention of land:
Divine anguish, the death of the cross,
Shall be the singing day and night.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~